Ysgol Bro Pedr

Bocs Becso - Worry Box

ADY

ALN

Cofiwch ddilyn ein tudalen Facebook / Remember to follow our Facebook page: 

Facebook: Adran ADY Ysgol Bro Pedr ALN Department 

 

Anelwn at gynnig addysg gynhwysol o safon i bob disgybl yn ogystal â chyfleoedd addysgol cyfartal i bob unigolyn. Yn Ysgol Bro Pedr credwn ei fod yn bwysig dod â’r gorau allan yn ein holl fyfyrwyr. Nod yr adran, o dan arweinyddiaeth y cydlynnydd ADY (CADY), Bethan Payne a'r CALU ADY, Ann Herbert yw hyrwyddo strategaethau dysgu a dulliau addysgu sy’n diwallu’r anghenion hyn. Rhoddir cymorth i athrawon i’w galluogi i ddarparu cyfleoedd priodol ar gyfer llwyddiant pob myfyrwyr. 

The school aims to offer a high standard of inclusive education and equality of opportunity to all individuals. At Ysgol Bro Pedr we believe that it's hugely important to bring the best in all our pupils. The aim of the ALN department, under the leadership of the ALN Coordinator (ALNCo), Bethan Payne) and ALN HLTA, Ann Herbert, is to promote learning strategies and teaching methods that allow all needs to be met. Support is given to teachers to enable them to provide appropriate opportunities for success for all students. 

Y Dosbarth Sgiliau Bywyd  - Life Skills Classroom

Mae’r Dosbarth Sgiliau Bywyd yn darparu ar gyfer disgyblion sydd yn cael hi’n anodd i ymdopi mewn gwersi’r prif ffrwd. Mae rhai disgyblion yn derbyn cwricwlwm amgen yn gyfan gwbl tra bo eraill yn mynychu’n rhan amser, gan gymryd mantais o sesiynau Sgiliau Bywyd yn ogystal â gwersi penodol prif ffrwd. Mae hyn yn ein galluogi i deilwra’r amserlen i’r unigolyn. Mae mwy a mwy o ddisgyblion y prif ffrwd yn defnyddio’r dosbarth peth cyntaf yn y bore yn ogystal ag yn ystod cyfnodau di strwythur. Rydyn ni’n dathlu hyn gan ei fod yn golygu nad yw’r plant yn teimlo bod stigma ynghlwm â’r dosbarth ac mae hefyd yn meddwl bod disgyblion sydd ag anawsterau cymdeithasol yn cymysgu gyda phobl ifainc sydd â sgiliau cymdeithasol mwy datblygedig, ac yn dysgu sgiliau pwysig megis cyswllt llygad, rhannu gydag eraill a chymryd tro.

The Life Skills Classroom caters for pupils who experience difficulties in accessing mainstream subjects. Some pupils receive an alternative curriculum whereas others attend on a part-time basis, taking advantage of specific Life Skills sessions whilst also attending certain mainstream subjects. This allows us to personalise each timetable to the individual. More and more mainstream pupils are also using the classroom as a base i.e. they ‘check in’ in the mornings and use the facilities during unstructured periods. We celebrate this as it means that pupils do not feel that there is a stigma attached to the classroom and it also means that our pupils with social difficulties are mixing with more socially-literate pupils and learning important social skills such as eye contact, sharing with others, turn taking etc. 

 

llyfryn sgiliau bywyd 2022.pdf

 

Sgiliau Bywyd - Life Skills

 Canolfan y Bont

 

Mae Canolfan y Bont yn darparu addysg ar gyfer disgyblion ag ystod o anghenion addysgol, gan gynnwys anableddau dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol ac awtistiaeth.

Symudwyd y Ganolfan i Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan (Ysgol Bro Pedr) ym mis Medi 1996, oherwydd cau Ysgol Breswyl Highmead, yn Llanybydder. Ariannwyd yr adeilad pwrpasol newydd gan Lywodraeth Cymru ac agorodd Canolfan y Bont yn swyddogol ym mis Ebrill 2003.

Nod y ganolfan yw darparu cwricwlwm eang a chytbwys, mewn awyrgylch gofalgar. Mae pob plentyn yn unigryw gyda'rpotensial i lwyddo. Ein nod yw creu cymuned sy’n canolbwyntio ar y plentyn sy’n galluogi pob disgybl i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol effeithiol ac i gyflawni ei botensial academaidd. Gweithredir y nodau hyn mewn amgylchedd ysgogol a strwythuredig, sy’n cynnwys cwricwlwm cytbwys a hyblyg.

Gan taw adnodd Sirol yw Canolfan y Bont rhaid i bob cais mynediad fynd trwy'r Adran Addysg. 

 

Canolfan y Bont provides education for pupils with a range of educational needs, including severe and multiple disabilities, severe learning difficulties and autism.

The Centre was moved to Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan (Ysgol Bro Pedr) in September 1996, due to the closure of Highmead School in Llanybydder. The new purpose-built building was funded by the Welsh Government and Canolfan y Bont officially opened in April 2003.

Our centre aims to provide a broad and balanced curriculum, in a caring atmosphere. Central to our philosophy is that every child is unique and special and has the potential to progress and succeed. Our aim is to create a child-centred community that empowers and enables all pupils to develop effective communication and social skills and to achieve their academic potential. These aims are implemented in a stimulating and structured environment, which includes a balanced and flexible curriculum.

As Canolfan y Bont is a Local Authority resource, all applications to the centre must be via the Local Authority. 

 

 

pre formal curriculum.pdf

 

semi formal curriculum.pdf

 

informal curriculum .pdf