Ysgol Bro Pedr

Bocs Becso - Worry Box

Ein Gweledigaeth
Our Vision

Cenhadaeth Ysgol Bro Pedr, yn ysbryd yr arwyddair ‘A fo ben bid bont’, yw darparu addysg gyfoethog ar gyfer yr holl ddisgyblion er mwyn sicrhau eu bod yn gwireddu eu llawn botensial. I gyflawni hyn, bydd Ysgol Bro Pedr yn ysgol cyffrous a deinamig sy’n medru addasu’n gyflym i heriau addysgu’r unfed ganrif ar hugain. Bydd hon yn ysgol sy’n datblygu strategaethau ac addysgeg ar sail ymchwil, yn ysgol sydd yn barod i fentro ac arbrofi wrth dorri tir newydd fel Ysgol 3-19 ac fel sefydliad sy’n dysgu gydol oes.

 

Cred yr Ysgol yw bod pob disgybl yn unigryw a bod pob plentyn yn cyfri. Dylai’r ysgol felly fod yn bont sydd yn helpu disgyblion i oresgyn unrhyw anawsterau ac sy’n grymuso ein dysgwyr i ddod yn ddinasyddion sy’n barod i ddysgu trwy eu bywydau. Ysgol ag iddi ethos gynhwysol, person-ganolog yw Ysgol Bro Pedr sy’n paratoi pob dysgwr i gofleidio heriau’r dyfodol drwy ddarparu ysgol hapus iddynt ddatblygu eu medrau i’r eithaf ac sy’n cadw anghenion ac uchelgais pob disgybl wrth wraidd yr hyn a gynigwn o fewn ein cwricwlwm.

Fel Ysgol 3-19, rydym yn bont gydol oes sydd â chyfrifoldeb i sicrhau bod disgyblion sydd yn ein gadael ar ddiwedd Blwyddyn 11 neu 13 yn gadael yr ysgol yn unigolion hyderus, gwybodus, creadigol ac egwyddorol. I gyflawni hyn, bydd Ysgol Bro Pedr yn darparu cwricwlwm a phrofiadau dysgu cydlynus sy’n pontio’r cyfnodau oedran ar draws yr ystod 3-19. Yn greiddiol i’r weledigaeth hon yw sefydlu’r Ysgol Ganol (Bl5-8) fydd yn fodd i roi ffocws clir i ddatblygu’r continwwm dysgu ar draws yr ystod oedran allweddol hwn.

Rydym yn bont sydd yn meithrin dysgwyr iach, annibynnol ac amlieithog sy’n ymhyfrydu yn eu hysgol a’u cymuned. Bydd dysgwyr 3-19 Ysgol Bro Pedr yn ddysgwr sy’n dangos parch at holl randdeiliaid yr ysgol ac yn unigolion uchelgeisiol sy’n gosod safonau uchel i’w hunain yn barhaus. Bydd yma ymdeimlad gref o gydweithio fel un gymuned ac o ganlyniad bydd disgyblion, staff, rhieni a gofalwyr, llywodraethwyr a holl randdeiliaid yr ysgol yn aelodau balch o gymuned Ysgol Bro Pedr. Bydd ein disgyblion yn gwerthfawrogi a pharchu eu cymuned leol cyn eu bod yn lledu eu hadenydd a mentro i’r byd mawr. O ddarparu profiadau cyfoethog a chreu ymdeimlad o falchder yn eu cymuned leol, gobaith yr ysgol yw y bydd nifer o’r disgyblion yn dychwelyd i gyfoethogi eu cymuned leol gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

(Murlun y Clwb Celf / Art Club Mural)

Ysgol Bro Pedr's mission, in the spirit of the motto 'A fo ben bid bont', is to provide a rich education for all pupils to ensure that they realise their full potential. To achieve this, Ysgol Bro Pedr will be an exciting and dynamic school that can adapt quickly to the teaching challenges of the twenty-first century. This will be a school that develops strategies and pedagogy based on research, a school that is ready to take risks and experiment when breaking new ground as a 3-19 School and as an organisation that learns throughout life.

The School believes that every pupil is unique and that every child counts. The school should therefore be a bridge that helps pupils overcome any difficulties and that empowers our learners to become citizens who are ready to learn throughout their lives. Ysgol Bro Pedr is a school with an inclusive, person-centred ethos which prepares all learners to embrace the challenges of the future by providing a happy school for them to develop their skills to the maximum while keeping the needs and ambitions of each pupil at the heart of what we offer within our curriculum.

As a 3-19 School, we are a lifelong bridge with a responsibility to ensure that pupils who leave us at the end of Year 11 or 13 leave the school as confident, informed, creative and principled individuals. To achieve this, Ysgol Bro Pedr will provide a coherent curriculum and learning experiences that bridge the age stages across the 3-19 range. At the core of this vision is the establishment of the Middle School (Years 5-8) which will provide a clear focus to develop the learning continuum across this key age range.

We are a bridge that nurtures healthy, independent and multilingual learners who enjoy their school and their community. Ysgol Bro Pedr 3-19 learners will be learners who show respect for all the school's stakeholders and will be ambitious individuals who continually set high standards for themselves. There will be a strong sense of working together as one community and as a result pupils, staff, parents and carers, governors and all the school's stakeholders will be proud members of the Ysgol Bro Pedr community. Our pupils will value and respect their local community before they spread their wings and venture into the big world. By providing rich experiences and creating a sense of pride in their local community, the school's hope is that many of the pupils will return to enrich their local community and realise their aspirations as valuable members of society.