Ysgol Bro Pedr

Bocs Becso - Worry Box

Cwricwlwm
 
Curriculum


Ein Nod:

Ein nod yn Ysgol Bro Pedr yw cynnig profiadau dysgu ac addysgu o'r radd flaenaf mewn amgylchedd ysgogol a chefnogol. Mae'r ysgol yn hyrwyddo'r gwerthoedd o barch a gofal ac mae disgwyliadau a safonau uchel yn greiddiol i holl agweddau o fywyd yr ysgol. Ein nod yw darparu addysg a chwricwlwm a fydd yn paratoi'r disgyblion ar gyfer byd gwaith ac i fod yn ddinasyddion cyfrifol a fydd yn cyfrannu'n hyderus at fywyd economaidd, digidol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru a'r Byd yn yr Unfed Ganrif ar Hugain.

Ein dyhead ar gyfer pob plentyn yw eu bod yn datblygu i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywydau a gwaith
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.  

 Our Aim:

At Ysgol Bro Pedr, we aim to provide the best quality of learning and teaching experiences in a stimulating and supportive environment. The school promotes the values of respect and care and high standards and expectations are central to all aspects of school life. Our aim is to provide an education and curriculum that will prepare our pupils for the world of work and to be responsible citizens who will contribute confidently to the economic, digital, social and cultural life of Wales and the World in the 21st Century. 

Our aspiration for every child is that they become:

  • ambitious, capable learners who are ready to learn throughout their lives;
  • ethical, informed citizens who are ready to be citizens of Wales and the world;
  • enterprising, creative contributors who are ready to play a full part in life and work;
  • healthy, confident individuals who are ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

 

 

 Cwricwlwm Bro Pedr