Ysgol Bro Pedr

Bocs Becso - Worry Box

Eisteddfod yr Urdd 2023

Disgyblion Bro Pedr yn serennu a chael Eisteddfod i’w chofio! / Bro Pedr pupils have an Eisteddfod to remember!

 

Mae gwyliau hanner tymor yn golygu un peth i ran fwyaf o ysgolion, ac wrth gwrs Eisteddfod yr Urdd yw hwn!

Wythnos llawn bwrlwm o gystadlu, cefnogi a mwynhau.

Eleni roedd gan yr Ysgol ddisgyblion yn cystadlu bob dydd o’r wythnos sydd yn gamp aruthrol a chlod mawr i’n disgyblion ac yn dangos y fath dalent sydd gyda ni yn yr Ysgol.

Half term holidays mean one thing to most schools, and of course this is the Urdd Eisteddfod!

A busy week of competing, supporting and enjoying.

This year the School had pupils competing every day of the week which is a tremendous achievement and a great credit to our pupils and shows such talent that we have in the School.

Perfformiad Theatrig

  

Levi - Unawd Piano

Llongyfarchiadau mawr i Levi Spooner am berfformio’n wych yng nghystadleuaeth gref o 19 o unawdwyr piano blwyddyn 6 ac iau. Yn yr un modd i Seirian Cutler ar y llefaru i ddysgwyr blynyddoedd 6 ac iau gyda 18 ohonyn nhw, fe berfformiodd Seirian yn arbennig ar y llwyfan.

Many congratulations to Levi Spooner for performing brilliantly in a strong competition of 19 year 6 and under piano soloists. Likewise, for Seirian Cutler on the learners reciting competition for year 6 and younger with 18 of them, Seirian performed especially well on stage.

 

 

 

 

 

Fe ddaeth hi’n ddydd Mercher a oedd yn golygu diwrnod y Dawnsio Disgo! Llongyfarchiadau i’r grŵp blynyddoedd 6 ac iau am berfformiad egnïol dros ben mewn cystadleuaeth o safon uchel iawn. Fe lefarodd Julia Kosidlo o flwyddyn 8 yn wych ar y llefaru unigol i ddysgwyr blynyddoedd 7-9, y tro cyntaf erioed I Julia gamu ar faes Eisteddfod Genedlaethol heb son am berfformio o flaen cynulleidfa a chamerâu teledu. Derbyniodd Seirian Cutler y drydedd wobr yn y dawnsio Disgo/ Stryd/ Hip Hop unigol blynyddoedd 6 ac iau.

Wednesday brought with it Disco Dancing day! Congratulations to the year 6 and under group for an extremely energetic performance in a very high standard competition. Julia Kosidlo from year 8 spoke brilliantly on the individual Welsh learner’s reciting competition for years 7-9, the first time ever for Julia to step on the field of a National Eisteddfod without talking about performing in front of an audience and television cameras. Seirian Cutler received third prize in the individual Disco/Street/Hip Hop dancing for years 6 and under. 

Julia - Llafar i ddysgwyr

 

 

 

Dawnswyr Iau

Dawnswyr Iau

 

Ymddangosodd Elin Lloyd ar y llwyfan yn y gystadleuaeth Dawnsio Disgo/Stryd/ Hip Hop unigol i rai sydd ym mlwyddyn 10 ac o dan 25 oed a dod i’r brig gyda pherfformiad aeddfed a phroffesiynol iawn. Roedd 11 yn y gystadleuaeth ac mae hyn yn gamp aruthrol gan gofio fod Elin ym mlwyddyn 10. Llongyfarchiadau gwresog iawn Elin.

Elin Lloyd appeared on stage in the individual Disco/Street/Hip Hop Dancing competition for those in year 10 and under 25 years of age and came out on top with a very mature and professional performance. There were 11 in the competition, and this is a tremendous achievement bearing in mind that Elin is in year 10. Many congratulations Elin.

Elin Lloyd - Dawns Unigol

Elin Lloyd - Dawns Unigol

 

 

 

 

 

 

Ar y dydd Iau teithiodd y grŵp dawnsio gwerin blynyddoedd 7-9 a pherfformio gyda graen a sglein. Da iawn chi a daliwch ati i ddawnsio. Fe ddaeth Trystan Bryn Evans i’r 3 uchaf yn yr Unawd Alaw Werin blynyddoedd 7-9.

On Thursday the years 7-9 folk dance group travelled to the Eisteddfod and gave a polished performance. Well done and keep dancing. Trystan Bryn Evans came in the top 3 in the Years 7-9 Folk Melody Solo.

Dawnsio Gwerin

Dawnsio Gwerin

 

Dechreuodd y disgyblion yn fore ar y dydd Gwener wrth i’r Perfformiad Theatrig i grŵp berfformio am 8 y bore, perfformiad gwych gan bob un ohonyn nhw ar y llwyfan.

The pupils started early on the Friday as the group Theatrical Performance began at 8am, a great performance from all of them on stage.

Perfformiad Theatrig Grŵp

Perfformiad Theatrig Grŵp Perfformiad Theatrig Grŵp

 

Fe aeth Megan, Zara, Martha a Jessica ymlaen i berfformio yn y Perfformiad Theatrig o sgript o fewn cwta hanner awr. Perfformiad o’r safon ucha’ yn hoelio sylw'r gynulleidfa’n syth. Fe ddaeth y newyddion gwych eu bod wedi cyrraedd yr ail safle. Llongyfarchiadau mawr iawn i chi ferched.

Megan, Zara, Martha, and Jessica went on to perform in the Theatrical Performance from a script within just half an hour. A performance of the highest quality, immediately capturing the attention of the audience. The great news came that they had reached second place. A very big congratulations to you ladies.

Perfformiad Theatrig

Perfformiad Theatrig

 

Buodd y criw siarad cyhoeddus yn cystadlu ym mhabell y cyngor sir. Wedi dadlau cryf iawn fe ddaeth y criw i’r trydydd safle - camp wych gan feddwl fod agos iawn at 20 grŵp wedi cystadlu yn y rowndiau cynderfynol. Gwych!

The public speaking team competed in the county council tent. After a very strong debate, the group came in third place - a great achievement considering that very close to 20 groups competed in the semi-finals. Amazing!

 

Llongyfarchiadau mawr i Betrys a ddaeth yn drydydd yn y ddeuawd Cerdd Dant gydag Alwena. Camp aruthrol.

A massive congratulations to Betrys who came third in the Cerdd Dant duet with Alwena. A tremendous achievement.

Siarad Cyhoeddus

 

Trin Gwallt 

Fe deithiodd y criw Trin Gwallt lawr ar y dydd Gwener hefyd- sef Summer, Charlotte a Sara i gyd ym mlwyddyn 10, yn cystadlu yng nghystadleuaeth Trin Gwallt Lefel 2 i rai ym mlynyddoedd 10 ac o dan 25 oed. Llwyddodd Charlotte ddod yn ail a Sara yn drydydd – da iawn chi ferched. Daliwch ati yn wir. Diolch hefyd i’w modelau Nia, Nicole ag Evie.

The Hairdressing crew also travelled down on the Friday - Summer, Charlotte and Sara all from year 10. They competed in the Level 2 Hairdressing competition for those in years 10 and under 25 years of age. Charlotte came second and Sara third - well done ladies. Keep up the good work. Thanks also to their models Nia, Nicole and Evie.

 

 

 

 

 

 

 

Trin Gwallt - CharlotteTrin Gwallt - Charlotte 

Trin Gwallt - Sara

Trin Gwallt - Sara

Trin Gwallt - Summer Trin Gwallt - Summer

  

Yn goron ar yr holl gystadlu cipiodd y côr gwerin y wobr gyntaf, mi roedd yna gyffro mawr iawn ar lwyfan y cyfrwy wrth i’r canlyniad gael ei chyhoeddi. Gwelwyd 40 o ddisgyblion o flwyddyn 8 I 13 yn rhan o’r côr ac roedd yn bleser eu gweld yn mwynhau perfformio ac yn cystadlu yn erbyn corau profiadol tu hwnt. Llongyfarchiadau mawr iawn i chi gyd!

To top all the competitions so far was the folk choir taking the first prize. There was great excitement on the stage as the result was announced. 40 pupils from year 8 to 13 were part of the choir and it was a pleasure to see them enjoying performing and competing against extremely experienced choirs. A very big congratulations to you all!

 

Côr Gwerin

 

Côr Gwerin  

Celf a Chrefft - Ifan

 

Braf oedd gweld Gruffydd Llwyd Dafydd hefyd yn darllen yn seremoni gwobr Tir na Nog.

It was also nice to see Gruffydd Llwyd Dafydd reading at the Tir na Nog award ceremony.

Nid yn unig ar y llwyfan gwelwyd enw Bro Pedr ond hefyd yn y babell Celf a Chrefft. Ifan Meredith yn cipio'r drydedd wobr. Llongyfarchiadau mawr i Noel ag Elain o Ganolfan y Bont am gipio gwobrau yn y lluniau 2D a 3D yn y categori ADY Dwys. Gwych iawn!

Bro Pedr's name was not only seen on stage but also in the Arts and Crafts tent. Ifan Meredith took the third prize in his category and congratulations to Noel and Elain from Canolfan y Bont for winning awards in the 2D and 3D photos in the ALN category. Well done!

Celf a Chrefft - Canolfan y Bont

  

Celf a Chrefft

Celf a Chrefft

Celf a Chrefft

Celf a Chrefft

 

 

Hoffwn ddiolch i bob un a deithiodd lawr i Lanymddyfri i’n cefnogi, yn sicr roedd clywed enw'r Ysgol yn cael ei chyhoeddi yn destun balchder mawr iawn i ni. Diolch o waelod calon i holl staff yr ysgol hefyd, sydd wedi bod wrthi’n ymarfer ac yn hyfforddi er mwyn rhoi profiadau bythgofiadwy i ddisgyblion talentog Bro Pedr.

I would like to thank everyone who travelled down to Llandovery to support us, certainly hearing the name of the School being announced was a source of great pride for us. Thank you from the bottom of our hearts to all the school staff as well, who have been practicing and preparing items with pupils in order to give unforgettable experiences to the talented pupils of Bro Pedr.

 

Llongyfarchiadau mawr iawn i bob un o’n disgyblion a droediodd y llwyfan - profiad bythgofiadwy dwi’n siŵr. Ymlaen a ni'r flwyddyn nesaf i Meifod.

A very big congratulations to all of our pupils who walked the stage - an unforgettable experience, I'm sure. Bring on Meifod next year!

Cerys Angharad