Ysgol Bro Pedr

Bocs Becso - Worry Box

Elonwy: Pencampwriaeth Tair Gwlad Brydeinig/British Internationals Tri-Nations tournament 

 

 

Llongyfarchiadau i Elonwy o flwyddyn 10 a chwaraeodd yn ei phencampwriaeth Tair Gwlad Brydeinig Ryngwladol cyntaf, yn Skegness, dros penwythnos yr 22ain – 23ain o Ebrill 2023. Dyma oedd ei pherfformiad cyntaf wrth chwarae i dîm ieuenctid Cymru WDO (mae ei chapiau blaenorol wedi bod ar lwyfan JDC).

Er gwaethaf y nerfau fe roddodd perfformiad dewr gan ennill buddugoliaeth o 3 - 2 yn ei gêm yn erbyn yr Alban, a chymryd gwobr ‘Lady of the Match’ yn y broses. Yn ei gêm yn erbyn Lloegr, dechreuodd gyda 1 - 0 yn erbyn pencampwr Merched Agored Prydain, ond yn y pen draw fe gollodd 3 - 1, ar ôl methu rhai dyblau hollbwysig.

Mae safle Elonwy yn nhrefn teilyngdod Ieuenctid y Sir hefyd yn golygu ei bod wedi ei dewis ar gyfer tîm ieuenctid WDO Cymru i chwarae yng Nghwpan Ewrop yn Fienna ym mis Gorffennaf. Da iawn Elonwy a phob lwc ym mis Gorffennaf!

Congratulations to Elonwy from year 10 who played in her first British Internationals Tri-Nations tournament, in Skegness, over the weekend, 22nd-23rd of April 2023. This was her debut playing for the WDO Welsh youth team (her previous caps have been on the JDC stage). 

Despite the nerves she put in a brave performance and sealed a 3 - 2 win in her game against Scotland and took the Lady of the Match award in the process. In her match against England, she initially went 1 - 0 up against the British Open Girls champion, but eventually lost 3 - 1, after missing some crucial doubles. 

Elonwy’s ranking in the County Youth order of merit has also earned her a selection for the WDO Welsh youth team to play in the European Cup in Vienna in July. Well done Elonwy and good luck in July!