Ysgol Bro Pedr

Bocs Becso - Worry Box

Prif Swyddogion 2023-24 Head Prefects

Wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn academaidd mawr yw ein diolch i Brif a Dirprwy Brif Swyddogion 2022-23. Fel Prif Swyddogion mae Harvey Roberts, Zara Evans, Abby Rooke-Williams a Megan Dafydd wedi bod yn llysgenhadon o'r radd flaenaf. Pob amser yn barod i arwain ac ysbrydoli boed hyn drwy berfformio yn Sioe'r Ysgol 'Grease', tywys darpar ddisgyblion a rhieni o gwmpas yr ysgol, codi arian ar gyfer elusennau neu gynrychioli'r ysgol mewn digwyddiadau yn y gymuned. Mae'r tîm o Ddirprwy Brif Swyddogion - Laura Jones, Naimur Rahman, Tomos James, Gwion Evans, Hanna Thomas, Daniel Farr hefyd wedi bod yn allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Maent fel tîm wedi cymryd yr awen yn ail-gydio ac ail-ddechrau sawl prosiect ers cyn y cyfnod clo, er enghraifft cynllun llyfrgyfeillion a phontio gyda'r Ysgol Gynradd. Diolch enfawr i bob un ohonynt a dymunwn bob llwyddiant iddynt i'r dyfodol!

As we approach the end of the big academic year our thanks go to our 2022-23 Head and Deputy Head Prefects. As Head Prefects, Harvey Roberts, Zara Evans, Abby Rooke-Williams and Megan Dafydd have been first class ambassadors. Always ready to lead and inspire whether this is by performing in the School Show 'Grease', guiding prospective pupils and parents around the school, raising money for charities, or representing the school at community events. The team of Deputy Head Prefects - Laura Jones, Naimur Rahman, Tomos James, Gwion Evans, Hanna Thomas, Daniel Farr have also been key over the past year. As a team they have taken the lead in re-engaging and re-starting several projects since before the lockdown period, for example the book buddies’ scheme and bridging with the Primary School. A huge thank you to all of them and we wish them every success for the future!

Pleser yw cyhoeddi enwau'r garfan newydd o Brif a Dirprwy Brif Swyddogion bydd yn arwain ac yn ysbrydoli ein disgyblion am y flwyddyn 2023-2024

It is a pleasure to announce the names of the new team of Head and Deputy Head Prefects who will lead and inspire our pupils for the year 2023-2024. Tîm Prif Swyddogion 23-24Wedi’r camau apwyntio, sef llenwi ffurflen gais, etholiad ymysg disgyblion Blwyddyn 12 ac athrawon, a chyfweliad apwyntiwyd Megan Biddulph, Gruffydd Dafydd, Ifan Meredith a Martha Thomas yn Brif Swyddogion,

After the appointment steps, namely filling in an application form, an election among Year 12 pupils and teachers, and an interview, Megan Biddulph, Gruffydd Dafydd, Ifan Meredith and Martha Thomas were appointed as Head Prefects,

Prif Swyddogion 23-24

Logan Jones, Iestyn Stephens, Jess Kemp, Elen Jones, Luned Jones a Taidgh Mullins yn Dirprwy Brif-Swyddogion,

Logan Jones, Iestyn Stephens, Jess Kemp, Elen Jones, Luned Jones and Taidgh Mullins as Deputy Head Prefects,

Dirprwyon 23-24

a Martha Wyard, Amelia Byczyk, Erin Jones-Williams a Jessica Jones yn Uwch Swyddogion.

and Martha Wyard, Amelia Byczyk, Erin Jones-Williams and Jessica Jones as Senior Prefects.
Uwch Swyddogion 23-24

Llongyfarchiadau gwresog iddynt ac edrychwn ymlaen at gyd-weithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Yn unol ag arwyddair yr ysgol – ‘A fo ben bid bont’ – gallwn ymddiried bydd y tîm gyfan o Swyddogion yn bont i ddisgyblion yr ysgol, ac yn arweinwyr cadarn a brwdfrydig. Llongyfarchiadau mawr iddynt, a dymuniadau gorau ar gyfer blwyddyn brysur arall yn Ysgol Bro Pedr!

Congratulations to them and we look forward to working with them during the coming year. In accordance with the school's motto - 'A fo ben bid bont' - we can trust that the entire team of Prefects will be a bridge for the school's pupils and will be enthusiastic leaders. Congratulations to them, and best wishes for another busy year at Ysgol Bro Pedr!