Ysgol Bro Pedr

Bocs Becso - Worry Box

Croeso

Welcome

Braint ac anrhydedd yw eich croesawu chi i wefan Ysgol Bro Pedr.

Yn unol â’n harwyddair ‘A fo ben bid bont’, mae ein gweledigaeth yn cwmpasu adeiladu a chryfhau sylfeini’r bont er mwyn galluogi ein disgyblion i gamu ymlaen ar daith addysgol hapus a llwyddiannus ble mae’r holl ddisgyblion yn cyflawni eu potensial unigol. Ein nod yn Ysgol Bro Pedr yw cynnig cyfoeth o brofiadau addysgol ac allgyrsiol gwerthfawr a chynhwysfawr a darpariaeth academaidd heriol a chynhwysol i holl ddisgyblion yr ysgol a hynny mewn amgylchedd gadarnhaol a gofalgar. Mae’r ysgol yn hyrwyddo ein gwerthoedd ac mae disgwyliadau a safonau uchel yn greiddiol i holl agweddau o fywyd yr ysgol. Ein nod yw darparu addysg a chwricwlwm bydd yn paratoi’ r disgyblion ar gyfer byd gwaith ac i fod yn ddinasyddion cyfrifol bydd yn cyfrannu’n hyderus i’w cymunedau.

Rydym yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau bod ein disgyblion yn cael y gofal a’r ddarpariaeth academaidd sy’n cwrdd â’u gofynion personol o’r adeg y maent yn cyrraedd yr ysgol yn dair mlwydd oed neu’n cyrraedd pan yn unarddeg mlwydd oed hyd nes yr adeg y maent yn gadael i gymryd y cam nesaf i fod yn aelodau blaengar o’u cymuned. Gan fod pob plentyn yn bwysig yn Ysgol Bro Pedr, bydd cydweithio a chyfathrebu cadarnhaol rhwng y cartref a’r ysgol yn holl bwysig er mwyn rhoi cynnydd a lles y disgybl yn ganolog i bopeth rydym yn gwneud.

Edrychwn ymlaen at ddyfodol llewyrchus i bawb sydd ynghlwm ag Ysgol Bro Pedr. Mae croeso cynnes i bawb ymuno ar y daith hon gyda ni, taith gyffrous mewn ysgol sy’n ymrwymo i sicrhau fod pob plentyn yn llwyddo mewn awyrgylch sy’n seiliedig ar barch. 

Mrs Carys Morgan

Pennaeth 

It is an honour and a privilege to welcome you to our Ysgol Bro Pedr school website.

In line with our motto 'A fo ben bid bont', our vision encompasses building and strengthening the foundations of the bridge to enable our pupils to progress on a happy and successful educational journey where all pupils fulfil their individual potential. Our aim at Ysgol Bro Pedr is to offer a wealth of valuable and comprehensive educational and extracurricular experiences and a challenging and inclusive academic provision for all the school's pupils in a positive and caring environment. The school promotes our values and high expectations and standards are at the core of all aspects of school life. Our aim is to provide an education and curriculum that will prepare our pupils for the world of work and to be responsible citizens that will contribute confidently to their communities.

We are working diligently to ensure that our pupils receive the care and academic provision that meets their personal requirements from the time they arrive school at the age of three or when they arrive at the age of eleven years old until the time they leave to take the next step to be progressive members of their community. As every child is important at Ysgol Bro Pedr, collaboration and positive communication between home and school will be essential in order to place the pupil's progress and well-being at the centre of everything we do.

We look forward to a prosperous future for everyone involved with Ysgol Bro Pedr. Everyone is warmly welcome to join us on this journey, an exciting journey in a school that is committed to ensuring that all children succeed in an atmosphere based on respect.

Mrs Carys Morgan

Headteacher